Cyffordd gyfieithu â'i chartref yn Aberystwyth yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.

Asiantaeth fechan ydym sy'n ffenest rhwng Cymru a'r byd: yn hwyluso gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy'n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol.

Mae cyfieithu llenyddol yn chwarae rhan hanfodol mewn ecoleg bregus. Mae parch at bobl a'u cyd-destun yn y byd yn hanfodol wrth gyfnewid diwylliant. Rydym yn ymdrechu i deithio mewn modd ymwybodol, gan holi'n gyson pam a sut.

Ein ffilmiau a delweddau

Gwyliwch ffilmiau a guradwyd yn arbennig ganddom i roi sylw i awduron ein Cwpwrdd Llyfrau. Mae dwy ffilm ar y gweill ar hyn o bryd: Gwyneth Lewis a Patrick McGuinness.

Cerdyn post i'r Ariannin

Tiffany Atkinson yn sgwennu ar ôl dychwelyd i Aberystwyth o ŵyl Rosario yn yr Ariannin.

Y Diweddaraf

Digwyddiadau

Fiction Fiesta 2013

Fiction Fiesta 2013

Mae'r Gyfnewidfa yn edrych ymlaen at Fiction Fiesta yn hwyrach y mis hwn. Rydym yn falch o fod yn ...mwy

Beirdd o Dwrci yn ymweld â Chaerdydd

Bydd Fiction Fiesta, Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru yn cyflwyno noson arbennig ...mwy

Follow us on Facebook Follow us on Twitter