Caryl Lewis

Caryl Lewis

 Caryl Lewis

Magwyd Caryl Lewis yn Aberaeron, a mynychodd ysgol gynradd ac uwchradd Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn ennill gradd uwch mewn ysgrifennu o Brifysgol Aberystwyth. Mae Caryl bellach yn byw ar gyrion Aberystwyth.

Mae Caryl wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer y teledu, y llwyfan ac i blant. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Dal hi! yn 2003, sydd yn nofel i oedolion ifanc, ac enillodd Iawn, boi? (Y Lolfa, 2003), wobr Tir na n-Og yn 2004. Hi yw awdur y gyfres lyfrau boblogaidd i blant Y Teulu Boncyrs (Y Lolfa), ac yn 2014 cyhoeddwyd ei stori luniau hyfryd Sgleinio’r Lleuad gyda lluniau gan Valeriane Leblond yn 2014.

Daeth Caryl Lewis i amlygrwydd fel awdur Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004), a enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Dyma nofel i oedolion, sy'n adrodd hanes dau frawd a chwaer sy'n byw yng nghefn gwlad Ceredigion. Enillodd hon wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Yn 2007 cyhoeddodd Parthian gyfieithiad Saesneg Gwen Davies o’r nofel, Martha, Jack and Shanco. Yn 2009 ymddangosodd addasiad ffilm yr awdur o’r nofel ar gyfer S4C, a enillodd chwe gwobr BAFTA. Mae Caryl hefyd wedi sgriptio nifer o ffilmiau a rhaglenni gan gynnwys Y Rhwyd (S4C), Gari Tryfan a’r Drych i’r Gorffennol (S4C, 2010) ac Elen (Sgrin Cymru, 2006).

Cyrhaeddodd Y Gemydd (Y Lolfa, 2007) restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2008, a’i nofel Naw Mis (Y Lolfa, 2009) yn 2010. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o Y Gemydd gan Honno yn 2019 fel The Jeweller, a gyfieithwyd gan Gwen Davies, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020–21.

Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion, Plu (Y Lolfa) yn 2008. Enillodd Caryl Lewis wobr Llyfr y Flwyddyn am yr eilwaith yn 2016 gyda’i degfed nofel, Y Bwthyn (Y Lolfa, 2015), nofel sydd wedi ei selio ar dri chymeriad – Enoch, Isaac ac Owen.

Cafodd ei chynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch cyfieithiad o'i stori fer "Y Gwreiddyn", a chyfieithwyd i'r Saesneg gan George Jones, yma.

Cyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf, Y Gwreiddyn gan y Lolfa yn 2016. Mae’r gyfrol hon o straeon byrion yn ymwneud â natur, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, cariad a cholled. Mae pob stori yn ceisio mynd i’r afael â chnewyllyn perthynas y cymeriadau â’i gilydd. Cyrhaeddodd y gyfrol hon restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017, a detholwyd ef ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.

Yn 2019 roedd yn un o’r awduron a oedd yn rhan o daith Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Calicut a Mumbai. Hefyd yn 2019 roedd hi’n un o’r pedwar o awduron Ewropeaidd a oedd yn rhan o daith Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Dde Ddwyrain Asia. Yn ystod y daith, cymerodd ran yn ‘Singapore Writers Festival’ a chynhadledd 'Asia Pacific Writers and Translators' (APWT).

Roedd Caryl yn rhan o drafodaeth 'A Different Window onto the World: Indigenous Language Literature, Identity and Translation in Scotland, Wales and Europe' yn Ffair Lyfrau Llundain 2019 (gweler y lluniau yma).