Niall Griffiths

Niall Griffiths

 Niall Griffiths

Cafodd Niall Griffiths ei eni yn Lerpwl, dinas sydd â chysylltiadau cryf â gogledd Cymru. Wedi iddo ddarllen llên yr iaith Saesneg yng Nghaergrawnt ac yna byw mewn gwahanol ddinasoedd ledled Prydain, fe symudodd i orllewin Cymru, ac yn Aberystwyth y mae wedi ymgartrefu. Bu cyhoeddi ei nofel gyntaf, Grits (Jonathan Cape, 2000), yn fellten yn y ffurfafen lenyddol. Nofel gignoeth ydyw a iaith y stryd yn amlwg ynddi. Mae'r nofel wedi ei haddasu ar gyfer y teledu. Sheepshagger (Jonathan Cape, 2001) oedd ei ail nofel. Yn hon, gwelwn Griffiths yn aeddfedu ac yn cadarnhau ei fod yn nofelydd dawnus a gwreiddiol iawn. Cyhoeddwyd Kelly and Victor (Jonathan Cape) yn 2002, Stump (Jonathan Cape) yn 2003 a Wreckage (Jonathan Cape) yn 2005. Yn 2007, cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, sef Stump (Jonathan Cape).

Gwyliwch Niall yn trafod ac yn darllen darn o'i lyfr, Broken Ghost, yma.