Víctor Rodríguez Núñez

Víctor Rodríguez Núñez

 Víctor Rodríguez Núñez

Ganwyd Víctor Rodríguez Núñez yn Havana, Ciwba yn 1955. Yn fardd, beirniad a golygydd, mae wedi cyhoeddi deunaw cyfrol o farddoniaeth, ac wedi derbyn amryw wobr ryngwladol. Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar flodeugerdd o farddoniaeth o Gymru i'w cyfieithu i'r Sbaeneg ar gyfer marchnad De America. Cafodd ei wahodd fel cyfieithydd preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru ym mis Mawrth 2012, ynghyd â'r golygydd, cyfieithydd a'r ysgolhaig, Katherine Hedeen. Cafwyd cyfleoedd i gyfarfod beirdd a golygyddion fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer y gyfrol.