Wrth gyfieithu llenyddiaeth agorwn ddrws ar fyd arall

Wrth gyfieithu llenyddiaeth agorwn ddrws ar fyd arall

27 Chwefror 2014

Mynd yn ol troed Caradog Prichard gyda Menna Baines

Ym mis Ionawr 2014 ymunodd Marta Klonowska â chyfieithwyr o’r Almaen, Catalwnia, India a Rwmania ar gyfer preswyliad Schwob a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên lle canolbwyntiwyd ar gyfieithu clasuron modern Cymreig.

"I mi cyfieithu llenyddol yw un o’r ffyrdd gorau o ddod i ddeall llenyddiaeth ar y lefel ddyfnaf. Mae’n gyfle gwych i ddarganfod iaith a’r diwylliant mae’n tyfu ohono. Pam fy mod i’n cael fy nhynnu i gyfieithu llenyddiaeth Gymraeg? Yn bennaf oherwydd fy niddordeb hirhoedlog yn yr iaith Gymraeg, ei chyfoeth a’i hamrywiaeth. Mae darganfod llenyddiaeth Cymru yn brofiad neilltuol, yn debyg iawn i ddarganfod trysor cudd sy’n agor y drws ar fyd arall, sydd mor agos ond eto’n gwbwl ddieithr. Mae’n brofiad y carwn rannu gyda phobl eraill fy ngwlad, ble nad yw llenyddiaeth o Gymru eto’n adnabyddus.

I ddyfynnu Ryszard Kapuściński: 'mae cyfieithu testun yn agor i eraill ddrws ar fyd arall, fe’i dehonglwn, fe'i heglurwn, a thrwy hynny, ei wneud yn hygyrch, yn agosach ac yn rhan o’n profiad personol”. Heddiw, gyda Gwlad Pŵyl a Chymru yn aelodau o’r gymuned Ewropeaidd a nifer cynyddol o bobl o wlad Pŵyl yn byw yng Nghymru, mae’n hanfodol sicrhau gwell dealltwriaeth rhwng y ddwy genedl. Yn sgil y datblygiadau diweddar, mae ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth ddiwylliannol o fewn Prydain yn cynyddu ymysg Pwyliaid sy’n fwy a mwy awyddus i ddysgu am ddiwylliant tu hwnt i’r brif ffrwd Saesneg. Ni ddylid anghofio am Gymru a’i thraddodiad llenyddol unigryw; fe fyddai’n fraint i mi gael rhannu hynny gyda'r Pwyliaid a’u gwneud yn ymwybodol o elfennau cyffredin ond anghofiedig ein treftadaeth Ewropeaidd.

Yn y llun: Marta Klonowska yng nghwmni Sally Baker a Menna Baines wrth gael eu croesawu ar aelwyd hen gartref i Caradog Prichard ym Methesda.