Cyhoeddi Enillydd Saesneg yr Her Gyfieithu

Cyhoeddi Enillydd Saesneg yr Her Gyfieithu

07 Mehefin 2016

Jessica Cortes Alsopp

Ddydd Sadwrn, yr 28ain o Fai, derbyniodd Jessica Cortes-Allsopp o Twickenham ei gwobr o £250 yn seremoni wobrwyo’r Her Gyfieithu a gynhaliwyd yng Ngŵyl y Gelli. Trefnwyd y gystadleuaeth ar y cyd gan Wales PEN Cymru a Chyfnewidfa Lên Cymru ac fe’i noddwyd gan Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe. Yr her eleni oedd cyfieithu cerdd gan y bardd o Fecsico, Pedro Serrano, o’r Sbaeneg unai i’r Gymraeg neu’r Saesneg.

Jessica, sy’n 24 oed a chanddi radd mewn Ffrangeg ac Eidaleg, yw’r enillydd am y cyfieithiad Saesneg eleni. Mae ganddi ferch blwydd oed ac ym mis Medi bydd Jessica yn dechrau cwrs ar gyfer gradd Meistr mewn cyfieithu yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) yn y gobaith y bydd hynny’n arwain at yrfa mewn cyfieithu. Bydd enillydd y cyfieithiad Cymraeg yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst mewn seremoni gyfatebol a gynhelir yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.

Yn ei feirniadaeth, cymeradwyodd Richard Gwyn, sy’n awdur, academydd, a theithiwr eang, gyfieithiad Jessica a oedd yn “gyfieithiad tynn a manwl gywir, sy’n adlewyrchu cymhlethdodau iaith Pedro Serrano yn well nag unrhyw un o’r cyfieithiadau eraill a ddaeth i law, ac sy’n cynnal rhythm sy’n cyd-daro â rhythm y gerdd wreiddiol.” A nifer y cystadleuwyr yn uchel, rhoddodd sylw hefyd i gynigion Iona Mcintyre, Sara Naylor, a Lesley Lawn am eu “hamrywiaethau medrus ar thema wreiddiol Pedro Serrano, cynigion a oedd, mewn gwahanol ffyrdd, yn fentrus, yn gerddorol ac yn ddychmygus.”

“Mae cyfieithu yn rhan sylfaenol o’r broses o rannu syniadau yn rhydd rhwng diwylliannau ac felly mae’n flaenoriaeth allweddol i sefydliad ar gyfer awduron rhyngwladol fel ein sefydliad ni” meddai Sally Baker, Cyfarwyddwr Wales PEN Cymru. Ychwanegodd Ned Thomas, Llywydd Sefydliad Mercator sy’n gartref i Gyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, rhaglen a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd: “mae datblygu sgiliau cyfieithu o safon uchel yn hanfodol er mwyn gallu cynnal y broses o gyfnewid llenyddiaeth, a hyrwyddo hynny yw holl fwriad ein sefydliad.”