
Mae grantiau cyhoeddi'r Gyfnewidfa ar gael i gyhoeddwyr tramor er cyfieithu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg Cymru.
Gall cyhoeddwyr yn y Deyrnas Unedig wneud cais ar gyfer cyfieithu llyfrau Cymraeg i'r Saesneg.
Mae pedwar dyddiad cau: 1af o Fawrth; 1af o Fehefin; 1af o Fedi; 1af o Ragfyr.
Mae pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau'r Gyfnewidfa. Mae sampl o waith y cyfieithydd yn cael ei asesu gan ddarllenydd allanol lle bo angen (os nad yw'r Gyfnewidfa yn gyfarwydd â gwaith y cyfieithydd, er enghraifft).
Hyd at 100% o dâl y cyfieithydd.
Dadlwythwch y ffurflen gais, os gwelwch yn dda, ac wedi ei llenwi, ei hanfon at Catrin Ashton, catrin@cyfnewidfalen.org.
Mae croeso i chi gysylltu â'r Gyfnewidfa os bydd unrhyw gwestiynau gennych am lenyddiaeth Cymru yn gyffredinol, neu os am drafod eich prosiect cyfieithu. Byddwn yn falch os gallwn fod o gymorth.
Telir y grant i'r cyhoeddwr wedi i'r Gyfnewidfa dderbyn chwe chopi cyfarch o'r cyfieithiad cyhoeddiedig yn ogystal â thystiolaeth fod y cyfieithydd wedi ei dalu yn ôl amodau'r cytundeb. Mae hawl gan y Gyfnewidfa i beidio â thalu'r grant os na chyflawnwyd amodau'r cytundeb.
Caiff y grant cyfieithu ei dalu yn ei grwnswth ar ôl i'r cyhoeddwyr gyflawni'r amodau canlynol:
"All musical instruments come with baggage. In fact they are baggage – objects of surrealist furniture that ...mwy