Tŷ Cyfieithu Cymru

Rhaglen o weithgaredd yw Tŷ Cyfieithu Cymru sydd yn rhoi sylw i gyfieithu creadigol fel celfyddyd yng Nghymru. Sefydlwyd y fenter pan ffurfiodd Cyfnewidfa Lên Cymru bartneriaeth â Thŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol - hynny er mwyn creu mwy o gyfleoedd ar gyfer awduron a chyfieithwyr o dramor i dreulio cyfnodau yn ymchwilio ac ysgrifennu, ac yn dod i adnabod y byd llenyddol yng Nghymru.

Mae Tŷ Cyfieithu yn galluogi awduron, cyfieithwyr, cyhoeddwyr a chynulleidfaoedd yng Nghymru i ddarganfod bydoedd llenyddol newydd ar stepen y drws. Yn ogystal â phreswyliadau a gweithdai, bob blwyddyn, cynhelir yr Her Gyfieithu - mae enillydd yr Her yn cael ei h/anrhydeddu â Ffon y Pencerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.


Mae Tŷ Cyfieithu Cymru yn aelod o HALMA, y rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer tai awduron a chyfieithwyr. Gweinyddir Tŷ Cyfieithu gan y Gyfnewidfa Lên yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth.


Mae Tŷ Newydd yn dŷ hanesyddol ym Mharc Eryri, wedi ei leoli mewn llecyn coediog rhyw ychydig funudau ar droed o'r môr ym Mae Ceredigion, a mynyddoedd Eryri yn ganfas yn y cefndir. Wrth adnewyddu'r tŷ gwnaethpwyd ymdrech arbennig i gadw'r nodweddion gwreiddiol.

Y Diweddaraf