Bydd Dydd Y Bydd Mawr Y Rhai Bychan

Bydd Dydd Y Bydd Mawr Y Rhai Bychan

08 November 2016

Mei Mac 1555

At the end of September, the poet Meirion Macintyre Hughes was invited to the Multiple Versionen Festival held in Leipzig, Germany to discuss poetry and the Welsh language. In a short Welsh language essay for Wales Literature Exchange, he shares his experience.

___________________________________________

Rwyf dros fy hanner cant oed erbyn hyn ac wedi trafod iaith gyda phobl o bob man yn y byd dros gyfnod maith o amser. Mae'n siŵr fy mod i dros y degawdau wedi defnyddio'r gair ‘iaith’ llawer iawn amlach na defnyddiwyd y gair 'language’ gan rhywun uniaith Saesneg. Dyna yw natur bod yn Gymro Cymraeg sydd yn poeni am ddyfodol ei iaith ac mae’r un peth yn wir, siŵr o fod am siaradwyr ieithoedd lleiafrifol eraill.

Profiad a wnaeth i mi feddwl llawer am ieithoedd ond yn bennaf y Saesneg oedd bod mewn gwyl fechan i ieithoedd lleiafrifol yn ddiweddar pryd y bu i mi siarad Saesneg drwy’r amser. Yn Leipzig, yr Almaen yr oeddwn yn trafod y Gymraeg a barddoniaeth Gymraeg mewn digwyddiad o’r enw 'Multiple Versionen' a drefnwyd gan Adran Ieithoedd Celtaidd y brifysgol yno. Er bod yno siaradwyr Catalan, Gwyddeleg a Sorbeg yr iaith gyffredin rhyngom oedd Saesneg, felly Saesneg oedd iaith y trafod. Ond ni chafodd hynny effaith negyddol o gwbl. Drwy gyfrwng yr iaith fain cefais drafodaethau treiddgar iawn yng nghwmni beirdd a darlithwyr â rhyngddynt nifer fawr o ieithoedd, fel arall rhyw brofiad braidd yn ddiflas fyddai treulio prynhawn a nos yng nghwmni pobl hawddgar a deallus heb ddeall yr un dim o’r hyn oedd ganddynt i'w rannu.

Mewn stafell hynod o glyd a chroesawgar yn y Soziokulturelles Zentrum die na To, Leipzig trafodwyd cyfieithu bardoniaeth a daeth yn amlwg bod unrhyw gerdd mewn ail-iaith, a dyna yn y bôn yw unrhyw cyfieithiad, yn salach peth na’r gwreiddiol. Dywedodd R S Thomas un tro bod cyfieithu barddoniaeth fel cusanu drwy hances, mae’n brofiad bersonol iawn ond mae rhywbeth mawr ar goll. Mi ges i’r cyfle i nodi bod cyfieithu cerddi caeth Cymraeg i unrhyw iaith arall fel cusanu drwy badell ffrïo. Ymysg yr arlwy hefyd roedd canu Gwyddeleg i’r delyn, cân a cherdd yn yr iaith Sorbeg gan Bernd Pittkunings a hanes 'Muliple Versionen' gan Silvia Aymerich Lemos. Dros beint wedyn bu trafod, ymysg pethau eraill y gwanahiaeth rhwng Sorbeg Uchaf a Sorbeg Isaf a hynt a helynt adrannau Astudiaethau Celtaidd ym mhrifysgolion Ewrop. Goleuedig iawn oedd y cyfan.

O edrych yn ôl mae’n deg dweud mai at ei gilydd, swm a sylwedd yr ãyl oedd nifer o bobl, yn siarad ieithoedd lleiafrifol yn dod at ei gilydd ac yn eironig ddigon yn siarad am eu diwyllianau unigryw yn yr ieithoedd hynny sydd yn fygythiad mawr iddynt. Ond gwell yw dod at ein gilydd fel hyn na gwylio ein gilydd o bell. Gwell yw trafod a dathlu a rhannu pethau harddaf ein ieithoedd, trafod ein pryderon a rhannu ein profiadau na gadael i iaith yr holl beth ein gwahanu. Ar un adeg, pan oeddwn yn ifanc am newid y byd, roedd unryw beth Saesneg ei iaith yn wrthyn i mi, iaith y gelyn ydoedd, iaith tranc y Gymraeg, iaith dinistr ein traddodiadau ac iaith difodiant ieithoedd bychain. Roeddwn yn ymwrthod â digwyddiadau ble roedd y Saesneg yn brif iaith ac yn y blaen. Ond wrth fynd yn hyn rwyf wedi dod i delerau â nifer o bethau'r byd ac wedi mynd i gredu na fydd y Saesneg yn fuan
yn berygl mawr i ieithoedd bychain. Rwy'n grediniol mai ail iaith (digon bratiog ar y cyfan) fydd y Saesneg, iaith trafod masnach, iaith bwcio gwesty dramor, iaith llywio awyrennau ond nid iaith y gall ddweud yr hyn mae'r enaid eisiau ei dweud. Caiff fod yn iaith newyddion byd eang efallai ond nid iaith barddoni, galaru, breuddwydio a charu.

Braf iawn oedd bod yng nghanol pobl a oedd yn ystyried eu hieithoedd prin fel anadl iddynt, yr hyn sydd yn eu cynnal, yr hyn sydd yn nodi pwy ydynt yn y byd sydd ohono a hynny ar adeg pan mae’r byd Saesneg ac ieithoedd mawr eraill Ewrop yn pryderu bod ieithoedd eraill yn britho ac anharddu eu gwledydd.

Daw pob ymerodraeth i ben, mae hanes wedi dangos hynny i ni a chyn i'r Gymraeg lithro dros y dibyn, cyn i'r Gatalaneg nogio a'r Sorbeg ddiflannu i’r niwl fe fydd newidiadau mawr yn digwydd i'r Saesneg ar lwfan byd eang. Ail-iaith, cefnder bach tlawd ac iaith ail-ddosbarth y bydd hi.

Mae'r rhod yn troi, yn araf iawn ond, heb os nac oni bai mae'n troi.

Meirion MacIntyre Hughes

______________________________________________

The Multiple Versionen was organised by Leipzig University, Germany.

Meirion MacIntyre Hughes's visit to Germany was supported by Wales Literature Exchange.

Related Gallery