Stori Go Iawn Karl Marx

Stori Go Iawn Karl Marx

30 November 2015

Storigoiawn

Ceir ychwanegiad gwerth chweil i silffoedd llyfrau ein plant y Nadolig hwn: Stori Go Iawn Karl Marx, sef cyfieithiad i'r Gymraeg o gyfrol wreiddiol mewn Catalaneg.

Gellir archebu copi ar wefan y cyhoeddwr. Noder mai nifer cyfyngedig o gopïau sydd yn cael eu hargraffu ac felly gorau po gyntaf i'r archeb fynd.

Daeth Sioned Haf ar draws y gyfrol wreiddiol - El Capital de Karl Marx - mewn siop lyfrau fechan oddi ar y Gran Via yn Barcelona y llynedd - dyna wnaeth danio'r syniad ynddi i fynd ati i gyfieithu a chyhoeddi'r gyfrol yng Nghymru. Dywed amdani: 'Dyma syniad gwych sy’n cyflwyno, trwy stori syml iawn, theori economaidd Karl Marx i blant.'