Banner

Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd

Cyffordd gyfieithu yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy'n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor.

Sefydlwyd y Gyfnewidfa dros ugain mlynedd yn ôl gyda’r nod o greu llwyfan hyrwyddo rhyngwladol ar gyfer llenyddiaeth o Gymru ac i gyfrannu at ryngwladoli ein diwylliant llenyddol. Ar y cyd â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, yn ogystal â phartneriaid lawer gartref a thramor, gweithiwn i roi ein harwyddair ‘Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd’ ar waith. Rydym yn hyrwyddo arlwy llenyddol Cymru yn ei holl amrywiaeth, yn codi ymwybyddiaeth am awduron o Gymru ledled y byd, yn cysylltu cyhoeddwyr â’i gilydd, ac yn datblygu sgiliau cyfieithwyr llenyddol.

Credwn bod gan gyfieithu llenyddol ran hanfodol mewn ecoleg ddiwylliannol fregus. Rydym yn ymhyfrydu yn yr amlieithrwydd sydd yn y byd heddiw ac yn benderfynol o gyfrannu at ei gynnal a’i ddatblygu. Mae parch at ieithoedd ac at gyfieithu wrth wraidd cyfnewid diwylliannol rhyngwladol.

Wleh home books

Silff Lyfrau yr Hydref 2023

cerdyn post

Cerdyn Post o Wlad Groeg

Ychydig a wyddwn i, wrth wneud cais am Ulysses Shelter nol yn Hydref 2019, y byddai pandemig yn dod i chwalu ac i ymyrryd ym mhob agwedd o fywyd, gan effeithio ar deithio gymaint â dim. Yn mis Mawrth 2020, roeddwn i ar fy mhreswyliad cyntaf yn Ynys Mljet, pan oedd rhaid gadael ar frys oherwydd cau…more


Ein ffilmiau