Trwy bori yn y penodau chwilio uwchben cewch gipolwg ar rai o'n gweithgareddau craidd sy'n cynnwys ein gwaith mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol a'r Silff Llyfrau - ffenest siop y Gyfnewidfa o gyfrolau llenyddol o Gymru i'w cyfieithu.
Rhaglen nawdd yw ein cronfa grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr tramor i gynorthwyo gyda chostau cyfieithu gweithiau llenyddol o Gymru. Gellir chwilio hefyd yn ein cronfa ddata o gyfieithiadau sydd wedi eu cyhoeddi mewn gwledydd led-led y byd.
Mae'r Gyfnewidfa wedi ei chartrefu ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae ganddi swyddfeydd yn Llambed ac yng Nghaerfyrddin. Rydym yn rhannu ein swyddfeydd gyda Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau a phrosiectau eraill Mercator.
Mae ein llyfrgell o gyfieithiadau yn agored - trwy drefniant - i gyfieithwyr, i ymchwilwyr ac i'r cyhoedd.
Cyfnewidfa Lên Cymru
Canolfan Mercator
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Llambed: Yr Hen Goleg, Ffordd y Coleg, Llambed SA48 7ED
Caerfyrddin: Adeilad Dewi, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EP
E-bost: post@waleslitexchange.org
Facebook: Wales Literature Exchange | Cyfnewidfa Len Cymru
Twitter: @walesliterature
1. ...mwy