Prosiectau

Manylion am rai o’n prosiectau cyfredol ac o’r gorffennol

Rydym yn cydweithio ar brosiectau rhyngwladol gyda amryw o sefydliadau. Mae'n prosiect cyfredol, Ulysses Shelter, yn bartneriaeth gyda Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a phartneriaid yn Ne Ddwyrain Ewrop, sy'n cynnig profiadau peswyl i awduron a chyfieithwyr ifanc, trwy gymorth Rhaglen Ewrop Greadigol a'r Undeb Ewropeaidd.

Ulysses’ Shelter

Mae Ulysses Shelter: Adeiladu Rhwydwaith Awduron Preswyl yn ail gam o brosiect a gyd-ariennir gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd gyda’r nod o greu rhwydwaith o breswyliadau cyfnewid llenyddol yn Ewrop wedi eu cynllunio’n bennaf ar gyfer awduron a chyfieithwyr llenyddol ifainc. Arweinir y prosiect gan Sandorf (cyhoeddwr ac asiantaeth lenyddol yng Nghroatia) ac mae’r prosiect yn cael ei weithredu yng Nghymru gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru. Y partneriaid eraill yw Krokodil (Belgrad, Serbia), Thraka (Gwlad Groeg) a Chymdeithas Awduron Slofenia.

Cynhelir rhaglen y preswyliadau ar ynys Mljet (Croatia), yn Ljubljana (Slofenia), yn Larissa (Gwlad Groeg), yn Belgrad (Serbia) ac mewn sawl lleoliad yng Nghymru. Bydd rhaglen y preswyliadau yn canolbwyntio ar symudedd rhyng-genedlaethol ac ar ddatblygu cynulleidfaoedd ac fe fydd yn rhoi cyfleoedd i awduron a chyfieithwyr ifanc i gael gweithio, perfformio a chyflwyno eu hunain mewn dau gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol gwahanol. Bydd y preswyliadau yn dod a chyfleoedd a phosibiliadau newydd i eraill fel rhan o’r prosiect, yn awduron, cyfieithwyr, golygyddion, cyhoeddwyr a/neu gynrychiolwyr o gyrff llenyddol yn Nghymru, Croatia, Slofenia, Serbia a Gwlad Groeg. Yn ogystal, bydd rhaglen sylweddol o weithgareddau llenyddol wedi eu hanelu at grwpiau targed (lleol) er mwyn cyfoethogi’r preswyliadau.

Ulysses shelter logo

Enghreifftiau o'n prosiectau blaenorol:

Schwob

The Dutch Foundation for Literature launched Schwob.nl in 2011 as a website and initiative that facilitates the promotion of literature from all parts of Europe that has not yet appeared in translation. It allows translators and publishers to share their knowledge of modern classics with each other and with readers.

In May 2013, Schwob started operating at a European level. The Dutch Foundation for Literature will cooperate with literature foundations and partners in six other countries: Catalonia (Institut Ramon Llull), Finland (Finnish Literature Exchange), France (European Society of Authors), Poland (Polish Book Institute), Belgium (Flemish Literature Fund) and the UK (Wales Literature Exchange).

The partners will work together on the selection, distribution and promotion of ‘Schwob titles’ – the truffles of world literature; exceptional but hard to find or undiscovered modern classics that whet the appetite. They will come together twice a year to select ten titles. From among those, each will select the five titles they find most suitable for their own language area, which they will then present to publishers and promote via the website, at festivals and through other activities.

A new, expanded, bilingual edition of the Schwob website has been launched, as a prelude to this Europe-wide collaboration.

New Project

Y Gadwyn Awduron

Cafodd prosiect y Gadwyn Awduron ei greu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â'r Cyngor Prydeinig. Yn ystod y cyfnod peilot, cafodd y prosiect ei reoli gan y Gyfnewidfa Lên. Nôd y cyfnod peilot (2008-09) oedd hyrwyddo cyfnewid llenyddiaeth rhwng Cymru, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Lloegr ac India, gan weithio mewn partneriaeth â Ffair Lyfrau Llundain a menter India 09 y Cyngor Prydeinig.

Yn Awst a Medi 2013 bydd y Gadwyn Awduron yn mynd ag awduron o Gymru i'r Ariannin a Chile.

Writers Chain Logo

Scritture Giovani

Lansiwyd Scritture Giovani yn 2002 gan Festivaletteratura Mantova (Yr Eidal) i hyrwyddo gwaith awduron Ewropeaidd ifanc. Un o'i brif bartneriaid yw Gŵyl y Gelli (Cymru). Mae awdur o Gymru wedi bod yn rhan o'r rhaglen bob blwyddyn a chyda chymorth y Gyfnewidfa, mae eu gwaith wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd ac yna ei ddosbarthu gan illycaffè. Mae awduron fu'n rhan o'r prosiect yn cynnwys Rachel Trezise (2002), Angharad Price & Richard John Evans (2003), Owen Sheers (2004), Fflur Dafydd (2005), Aneirin Karadog (2006), Caryl Lewis (2007), Cynan Jones (2008), Owen Martell (2009), Catrin Dafydd (2010), Anna Lewis (2011), Eurig Salisbury (2012).

Scritture Giovani Logo

Transcript

Cylchgrawn arlein sy'n rhoi sylw i lyfrau a llenyddiaeth Ewrop yw Transcript. Fe'i cyhoeddir mewn Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg gan rwydwaith Llenyddiaeth ar draws Ffiniau.

Transcript Logo

Sealines

Mae Sealines yn gynllun cyfnewid awduron a chyfieithwyr preswyl a sefydlwyd gan Lenyddiaeth ar draws Ffiniau yn 2005. O Gymru, bu Fflur Dafydd a Tristan Hughes yn rhan o'r rhaglen.

Sealines Logo

Rhwydwaith Cyhoeddwyr Mosaic

Mae Rhwydwaith Cyhoeddwyr Mosaic yn bartneriaeth o gyhoeddwyr annibynnol yn Ewrop sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi cyfieithiadau o weithiau llenyddol. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol gan Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant / Cyfnewidfa Lên Cymru yn dilyn cynhadledd yn Aberystwyth yn 1998 o'r enw "Mosaic: hyrwyddo llenyddiaeth ar draws ffiniau". Dyma oedd y cnewyllyn a ddatblygwyd yn Llenyddiaeth ar draws Ffiniau maes o law.

Mosaic Publishers Logo