Alys Conran

Alys Conran

Ewch i'r Wefan
 Alys Conran

Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, treuliodd sawl mlynedd yng Nghaeredin a Barcelona cyn dychwelyd i'r ardal i fyw a sgrifennu. Datblygodd brosiectau i gynyddu mynediad i sgwennu creadigol a darllen ac mae hi yn awr yn ddarlithydd sgwennu creadigol ym Mangor. Mae ei ffuglen wedi cael llwyddiant yn y Bristol Short Story Prize a'r Manchester Fiction Prize. Yn ogystal, mae hi'n cyhoeddi barddoniaeth, traethodau creadigol a chyfieithiadau llenyddol.

Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, Dignity, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2020.