Tiffany Atkinson

Tiffany Atkinson

 Tiffany Atkinson

Ganwyd Tiffany Atkinson ym Merlin yn 1972 i deulu o’r fyddin, a bu’n byw yn yr Almaen, Cyprus a Phrydain. Ar ôl astudio Saesneg ym Mhrifysgol Birmingham dechreuodd PhD yn 1994 ym Mhrifysgol Caerdydd mewn Theori Feirniadol, yn ymchwilio i Ysgrifennu Cyfoes a Theorïau’r Corff. Mae Tiffany’n byw yng Nghymru ers hynny. Mae hi nawr yn ddarlithydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enillodd Tiffany Gystadleuaeth Bardd Ifanc y Flwyddyn BBC Radio yn 1993 a 1994, a’r Gystadleuaeth Ottakar a Barddoniaeth Faber yn 2000. Roedd ei chasgliad cyntaf, Kind and Particle (Seren, 2006) yn Argymhelliad Cymdeithas Llyfr Farddoniaeth ac enillodd Wobr Casgliad Cyntaf Jerwood Aldeburgh. Roedd hefyd ar restr fer Gwobr Awdur Newydd Glen Dimplex. Disgrifiwyd ei hail gasgliad, Catulla et al (Bloodaxe, 2011) gan Patrick McGuinness (The Guardian) ei fod yn dangos, “Atkinson's gift for unsettling conceits and reworking everyday life into a contorted, surreal folklore." Cyhoeddwyd ei thrydedd nofel, So Many Moving Parts, gan Bloodaxe yn 2014.

Mae hi’n olygydd ar The Body: A Reader (Palgrave, 2004). Mae ei barddoniaeth i’w weld ar wefan Poetry International ac yn aml i’w weld mewn cylchgronau a blodeugerddi, gan gynnwys Identity Parade: New British and Irish Poets gol. Roddy Lumsden (Bloodaxe, 2010) a Women’s Work: Modern Women Poets Writing in English gol. Amy Wack ac Eva Salzman (Seren, 2009).

Cynnwys Cysylltiedig