Gerɗur Kristný

Gerɗur Kristný

 Gerɗur Kristný

Ganwyd Gerður Kristný yn 1970 ac fe'i magwyd yn Reykjavík. Graddiodd mewn Ffrangeg a Llenyddiaeth Gymharol ym Mhrifysgol Ynys yr Iâ yn 1992. Mae bellach yn awdur llawn-amser. Enillodd un o wobrau llenyddiaeth Gwlad yr Iâ 2010 gyda'i chyfrol o farddoniaeth a ysbrydolwyd gan chwedl hynafol Lychlynaidd, wedi ei hadrodd yn y gerdd Skírnimál, am ymgais y duw Nordig ar gyfer ffrwythlondeb, Freyr, i mofyn Gerdur Gymisdóttir yn wraig iddo o'i chartref pell.

Mae Gerður wedi cyhoeddi casgliad o farddoniaeth, straeon byrion, nofelau, llyfrau i blant a bywgraffiad a enillodd iddi wobr newyddiaduraeth Ynys yr Iâ yn 2005. Mae drama Gerður, Y Dawnsio yn Bessastadir, a ysbrydolwyd gan ddwy o'i chyfrolau i blant, wedi ei pherfformio gan Theatr Genedlaethol Ynys yr Iâ yn Chwefror 2011. Ymysg gwobrau eraill a enillodd mae gwobr llenyddiaeth plant Gwlad yr Iâ yn 2003 a gwobr Halldór Laxness yn 2004.

Mae Gerður Kristný yn byw yn Reykjavík ac yn treulio llawer o'i hamser yn teithio dramor i gyflwyno ei gwaith.