Gwyneth Lewis

Gwyneth Lewis

Ewch i'r Wefan
 Gwyneth Lewis

Ganwyd y bardd Gwyneth Lewis yng Nghaerdydd yn 1959. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, astudiodd y Saesneg yng Nghaergrawnt. Treuliodd dair mlynedd yn yr Unol Daleithiau fel Cymrawd Harkness, gan weithio am gyfnod fel newyddiadurwraig cyn dychwelyd i Brydain a throi at fyd teledu.

Ysgrifennodd ddoethuriaeth ar waith Iolo Morgannwg yn Rhydychen cyn dychwelyd i Gymru a gweithio fel cynhyrchydd teledu. Gadawodd y BBC i ysgrifennu'n amser llawn yn 2002.
Ers hynny, mae wedi treulio mwy o amser yn yr UD, yn gymrawd yn Harvard, Stanford ac yn dysgu y adrannau Saesneg Prifysgolion Princeton a Bread Loaf, lle hi oedd Athro Llenyddiaeth Robert Frost 2016.

Yn 2001 fe’i noddwyd gan Nesta (National Endowment for Science, Technology and the Arts) i hwylio i borthladdoedd ledled y byd sydd â chysylltiad hanesyddol â Chaerdydd, ei dinas enedigol.

Mae Gwyneth Lewis yn ysgrifennu yn Saesneg ac yn y Gymraeg, ei hiaith gyntaf. Cyhoeddodd dair cyfrol o farddoniaeth yn Gymraeg, yn cychwyn gyda Sonedau Redsa (Gomer, 1990). Cyrhaeddodd Cyfrif Un ac Un y Dri (Barddas, 1996) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn ac enillodd Y Llofrudd Iaith (Barddas, 1999) y wobr. Perfformiwyd y cerddi fel drama gan fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae'r gyfrol Tair Mewn Un (Barddas, 2005) yn cyfuno'r cyfrolau. Cyhoeddwyd Treiglo (Barddas), sef casgliad newydd o'i cherddi yn y Gymraeg yn Hydref 2017.

Enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd yn y Barri (1977) ac yn Llanelwedd (1978).

Cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf Saesneg, Parables and Faxes (1995), restr fer Gwobr Forward am y gyfrol gyntaf orau ac fe enillodd wobr farddoniaeth Gŵyl Aldeburgh. Yn 1998, dyfarnwyd iddi wobr Eric Gregory. Cafodd Zero Gravity ei chynnwys ar restr fer Gwobr Forward am y gyfrol orau ac fe'i cymeradwywyd gan y Poetry Book Society. Gwaith un o'i thylwyth ar delescôp Hubble fu rhan o'r ysbrydoliaeth i'r gyfrol honno. Yn 2000 enillodd ei hail gyfrol yn Gymraeg, Y Llofrudd Iaith, wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyhoeddodd gyfrol nodedig ac unigryw yn trafod iselder ysbryd, Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book on Depression yn 2002.

Ysgrifennodd Gwyneth y geiriau ar gyfer dwy opera i blant ac oratorio i Gorws Opera Genedlaethol Cymru a chantorion amatur. Bu Gwyneth yn Fardd Preswyl yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd. Cyfieithodd ddwy ddrama o'r Saesneg i'r Gymraeg, The Tempest gan Shakespeare a Medea Euripides.

Cyhoeddodd A Hospital Odyssey (Bloodaxe, 2010) sef cerdd arwraidd sydd yn dogfennu taith drwy salwch a marwolaeth, a Sparrow Tree (Bloodaxe, 2011).