Christopher Meredith

Christopher Meredith

Ewch i'r Wefan
 Christopher Meredith

Magwyd Christopher Meredith yn Nhredegar, ac mae’n nofelydd, bardd, a chyfieithydd o’r Gymraeg i’r Saenseg.

Mae’n awdur ar bump nofel, casgliad o straeon byrion, a nifer o gasgliadau o farddoniaeth.

Enillodd Gwobr Eric Gregory (o’r Society of Authors) yn ogystal â Gwobr Llenor Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru yn 1984.

Cafodd ei nofel gyntaf, Shifts, ei ganmol yn eang, ac enillodd Gwobr Ffuglen y Cyngor Celfyddydau a chafodd ei ddewis ar restr fer y Wobr Greatest Welsh Novel gan y Wales Arts Review yn 2014. Mae ei waith yn aml yn cael eu dewis i'r restr Wobr Llyfr y Flwyddyn. Cyfieithodd Melog, sef un o nofelau Mihangel Morgan, o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Mae Chris wedi siarad a thrafod ei waith mewn amryw ffeiriau llyfrau a gwyliau llenyddol ar draws Prydain ac Ewrop. Mae’n Gymrawd o’r Academi Gymreig a’r Gymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Athro Emeritws o ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol De Cymru ac yn byw erbyn hyn yn Aberhonddu.

Cyhoeddwyd ei gasgliad o farddoniaeth, Still, a’i nofel, Please ar y cyd yn 2021 ac fe’u dewiswyd ar gyfer ein Silff Lyfrau 2021–22.

Llun: hawlfraint Gareth Writer-Davies