Mona de Pracontal

Mona de Pracontal

 Mona de Pracontal

Mae Mona de Pracontal yn byw ym Mharis ac yn enillydd gwobr gyfieithu Baudelaire 2009.

Bu'n gyfieithydd preswyl Tŷ Cyfieithu Cymru yn Ebrill 2010. Treuliodd bythefnos yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol yn Llanystumdwy, gogledd Cymru, yn gweithio ar gyfieithiad i'r Ffrangeg o The Long Dry gan Cynan Jones, yr awdur o Aberaeron. Yn ystod ei phreswyliad, cafodd Mona gyfle i gyfarfod Cynan ac i drafod ei waith tra hefyd yn ymweld â rhai o'r llefydd wnaeth ysbrydoli'r golygyfeydd yn y nofel.

Comisiynwyd y cyfieithiad o'r nofel gan wasgnod Joelle Losefeld sy'n rhan o wasg Gallimard yn Ffrainc.

Ymysg llyfrau eraill a gyfieithwyd i'r Ffrangeg gan Mona de Pracontal mae The Good Thief gan Hannah Tinti (Gallimard, 2009), Half of a Yellow Sun gan Chimamanda N. Adichie (Gallimard, 2008) a The Body gan Hanif Kureishi (Christian Bourgois, 2003).

Mae Mona ar hyn o bryd yn cyfieithu i'r Ffrangeg nofel ddiweddaraf Cynan, sef Everything I Found on the Beach (Parthian, 2011) a ddewiswyd ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2011 y Gyfnewidfa.