Llwyd Owen

Llwyd Owen

Ewch i'r Wefan
 Llwyd Owen

Mae Llwyd Owen yn awdur cynhyrchiol iawn ers iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, yn 2006. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, wobr Llyfr y Flwyddyn 2007. Ers hynny, mae’r awdur wedi cyhoeddi nofel y flwyddyn ar gyfartaledd, gan hefyd weithio fel cyfieithydd, sgriptiwr ysbeidiol, cyflwynydd teledu, ac yn fwy diweddar, cyflwynydd y podlediad ‘Does dim gair Cymraeg am RANDOM’.

Mae ei nofelau diweddaraf yn cynnwys Taffia (y Lolfa, 2016), Pyrth Uffern (y Lolfa, 2018) - a ddewiswyd i'n Silff Lyfrau 2018, Iaith y Nefoedd (y Lolfa, 2019) - a ddewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020, a Rhedeg i Parys (y Lolfa, 2020).

Mae Llwyd wedi cyfieithu ac addasu dau o’i nofelau i’r Saesneg, ac mae sawl darn o’i waith wedi cael eu haddasu ar gyfer y radio a'u perfformio ar lwyfan cenedlaethol. Gwnaeth Owen ei hun fentro i’r llwyfan, fel actor ac ysgrifennydd, am y tro cyntaf yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd yn 2018.

Cafodd ei gynnwys yn rhifyn Cymraeg y cylchgrawn ar-lein, Words Without Borders. Darllenwch y tudalennau agoriadol o'i nofel newydd, Iaith y Nefoedd (The Language of Heaven), a chyfieithwyd i'r Saesneg gan yr awdur, yma. Cyrhaeddodd y nofel hon restr fer Llyfr y Flwyddyn 2020, a'i dewis i'n Silff Lyfrau 2020–21.

Gwyliwch Llwyd yn trafod ac yn darllen darn o'i nofel, Iaith y Nefoedd, yma.