Paul Henry

Paul Henry

Ewch i'r Wefan
 Paul Henry

Ganwyd Paul Henry yn Aberystwyth yn 1959 ac mae’n un o brif feirdd Cymru. Cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi newydd, The Brittle Sea, fis Hydref 2010, a dewisiwyd ef ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru 2011-12.

Fe'i disgrifiwyd gan y diweddar U. A. Fanthorpe fel ‘bardd y beirdd’ sy’n cyfuno ‘cerdd geiriau gyda dychymyg arbennig o ddyfeisgar.’ Trodd at farddoni ar ôl bod yn cyfansoddi caneuon, a dyfarnwyd iddo wobr Gregory yn 1989.

Mae ei waith wedi ei ddewis ar gyfer nifer lu o flodeugerddi ac mae wedi ymddangos mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau megis Poetry Wales a’r Times Literary Supplement. Mae’n diwtor ysgrifennu creadigol poblogaidd ac mae wedi arwain y Ledbury Festival Poetry Cafe ac mae hefyd yn diwtor cyson yn Nhŷ Newydd.

Cyhoeddwyd cyfieithiad Ffrangeg, Mari d'Ingrid, o'i bumed cyfrol, Ingrid's Husband (Seren) gan wasg L'Harmattan yn ddiweddar. Yn 2010 cyflwynodd gyfres o raglenni celfyddydol - Inspired - ar gyfer BBC Radio Wales.

Mae cyhoeddiadau Paul Henry yn cynnwys:

  • Boy, Running (Seren, 2015)
  • The Brittle Sea: New and Selected Poems (Seren, 2010)
  • The Breath of Sleeping Boys & other poems (Carreg Gwalch, 2004)
  • The Slipped Leash, (Seren, 2002)
  • The Milk Thief (Seren, 1998)