Lee Seung-U

Lee Seung-U

 Lee Seung-U

Mae Lee Seung-U yn nofelydd ac yn Athro mewn Llenyddiaeth Korea ym Mhrifysgol Chosun. Aeth i Goleg Diwinyddol Seoul a Phrifysgol Raddedig Diwinyddiaeth Yonsei. Wedi ei ysbrydoli gan yr ymgais i lofruddio'r Pab John Paul II yn 1980, ysgrifennodd Lee Seung-U The Portrait of Erysichton, ymgais gydwybodol i ddirnad y berthynas rhwng Duw a dyn. Mae ei weithiau dilynol wedi cymhathu dychymyg y Cristion a phryder am y dirfodol. Mae ei waith yn trafod y gwrthdaro rhwng y seciwlar a'r dwyfol a sut y bydd hynny yn amlygu ei hun.

Mae Seung-U hefyd wedi ymafael ar broblem o gelfyddyd a hunaniaeth yr artist o fewn cymdeithas fodern. Mae A Conjecture Regarding the Labyrinth a To the Outside of the World yn trafod dadrithiad yn sgil llygredd a dibrisio iaith, gan gynnig myfyrdod deallus ar rwystro'r fath besimistiaeth rhag mynd yn drech.

Er bod Seung-U yn ymdrin â phynciau athronyddol megis problemau bodolaeth a dieithrio dyn oddi wrth ei Dduw, nid yw ei waith yn llethu yn bennaf oherwydd ei ysgrifennu huawdl a’i arddull gynnil. Cyhoeddwyd ei waith mewn cyfieithiad Saesneg gan Peter Owen yn y DG. Enillodd wobr Lenyddol Daesan yn 1993.