Siân Northey

Siân Northey

 Siân Northey

Magwyd Sian Northey yn Nhrawsfynydd, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhyndeudraeth.

Wedi sawl swydd, gan gynnwys cyfnodau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Gwasg y Bwthyn, penderfynodd weithio ar ei liwt ei hun fel awdur, bardd a golygydd.

Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch), ar restr fer barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2014. Bydd cyfieithiadau Sbaeneg o 8 o’i cherddi yn cael eu cynnwys mewn blodeugerdd a gyhoeddir ym Mecsico. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nifer o lyfrau i blant, yn ogystal â llên meicro.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Yn y Tŷ Hwn (Gomer) yn 2011, a dewiswyd y nofel honno ar gyfer Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2011. Dewiswyd ei hail nofel i oedolion, Rhyd y Gro (Gomer, 2016), hefyd i Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa yn 2016.

Cyhoeddwyd ei chasgliad o straeon byrion Celwydd Oll (Gwasg y Bwthyn) yn 2018, ei nofel Perthyn (Gomer) yn 2019 a chasgliad arall o straen byrion, Cylchoedd (Gwasg y Bwthyn) yn 2020.

Yn 2018 bu Siân yn Kerala, yn Ne India, i gymryd rhan mewn gweithdy cyfieithu, a drefnwyd gan chwaer sefydliad y Gyfnewidfa, Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau (LAF), ar y cyd â Sahitya Pravarthaka Saharkarana Sangham (SPCS). (gweler y lluniau yma)

Ar hyn o bryd mae hi’n astudio’n rhan amser ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, a dewiswyd hi i’r cynllun Writers at Work yng Ngŵyl y Gelli yn 2016.