T. H. Parry-Williams

T. H. Parry-Williams

 T. H. Parry-Williams

“Mae cyfraniad gwerthfawr T.H. Parry-Williams i lythyron Ewropeaidd yn deillio o’i gerddi a’i ysgrifau, sy’n rhoi mewnwelediad diddorol ar sut y mae llenyddiaeth leiafrifol wedi mynd i’r afael â moderniaeth yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae ei Gasgliad o Ysgrifau yn cynnwys dros gant o ddarnau o ysgrifau byrion, a gyfansoddwyd rhwng 1928 a 1971, ar bynciau megis ‘Y Pryf Genwair’, ‘Tywod’, ‘Boddi Cath’ a ‘Prynu Caneri’, lle yr amlygir meddwl dadansoddol gwych yr awdur, ei ddefnydd dwfn a manwl gywir o iaith, ac yn bennaf ei allu i drwytho profiadau cyffredin bob dydd ag arwyddocâd cosmig.”

Awdur: Angharad Price, ar gyfer Rhestr Finnegan yn 2014