Tony Bianchi

Tony Bianchi

 Tony Bianchi

Cafodd Tony Bianchi ei fagu yng ngogledd ddwyrain Lloegr a dysgodd Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llambed, lle enillodd ddoethuriaeth am astudiaeth o waith Samuel Beckett. Bu am flynyddoedd yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae bellach yn gweithio fel awdur, golygydd a chyfieithydd ac yn byw yng Nghaerdydd.

Ymysg ei nofelau mae Esgyrn Bach (Y Lolfa, 2006), a oedd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn; Pryfeta (Y Lolfa, 2007), a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen ac a oedd hefyd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn; Chwilio am Sebastian Pierce (Gomer, 2009) a Bumping (Alcemi, 2010) a oedd ar restr hir Gwobr Portico.

Dewiswyd Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gomer, 2010) ar gyfer Cwpwrdd Llyfrau Hydref 2011 y Gyfnewidfa - cyfrol sy'n gyfres o straeon cysylltiedig a lled hunanfywgraffyddol. Mae Tony Bianchi hefyd yn feirniad a bardd, ac mae wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei farddoniaeth yn Gymraeg. Ymhlith ei gyhoeddiadau eraill mae Ras Olaf Harri Selwyn (Gomer, 2012), Dwy Farwolaeth Endaf Rowlands (Gomer, 2015) a Sol a Lara (Gomer, 2016).

Fideos