Dannie Abse

Dannie Abse

Ewch i'r Wefan
 Dannie Abse

Cafodd Dannie Abse (1923) ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd. Iddewon oedd ei rieni. Ar ôl astudio yng Nghymru ac yn Llundain fe ddechreuodd ar yrfa fel meddyg yn 1950. O 1954 hyd 1989 bu yn gweithio fel arbenigwr ar y frest a'r ysgyfaint mewn clinig yn Llundain. Ymlith ei gyfrolau o farddoniaeth y mae Selected Poems (1970) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Celfyddydau Cymru, a White Coat, Purple Coat: Collected Poems 1948-1988. Mae marwolaeth ac angau yn y byd sydd ohoni yn thema amlwg yng ngwaith Dannie Abse, yn ogystal â serch a chariad a'r tensiynau y mae gofynion cymdeithas yn eu creu ym mywyd yr artist a'r unigolyn. Dau lyfr rhyddiaith o'i eiddo a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw'r ail-agraffiad o Goodbye, Twentieth Century: An Autobiography a The Strange Case of Dr Simmonds and Dr Glas, nofel wedi ei lleoli yn Llundain yn y 50au a gafodd ei dewis ar gyfer rhestr hir y Booker yn 2002.