Alun Davies

Alun Davies

Ewch i'r Wefan
 Alun Davies

Cafodd Alun Davies ei eni yn Aberystwyth yn 1980, ac ar ôl cyfnod o ddeuddeg mlynedd yn byw yn Llundain dychwelodd Gymru yn 2011. Bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Alun yn ddatblygwr meddalwedd a pherchennog busnes.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd gan Y Lolfa yn 2018. Dyma oedd y cyntaf yn ei drioleg o lyfrau ditectif noir wedi eu lleoli yn Aberystwyth, sy’n dilyn hanes cythryblus Ditectif Taliesin MacLeavy. Cyhoeddwyd yr ail, Ar Lwybr Dial yn 2020, a chafodd ei gymeradwyo gan nifer o ddarllenwyr ac awduron blaenllaw'r Gymraeg, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020–21. Mi fydd y nofel olaf yn y drioleg, Ar Daith Olaf, yn cael ei gyhoeddi diwedd 2021. Mae Alun wedi ymddangos i drafod ei lyfrau mewn sawl gŵyl lenyddol Gymraeg.

Mae Alun eisoes wedi teithio ar hyd Gogledd a De America, ac mae’n awyddus i weld mwy o’r byd. Yn ei amser sbâr, mae’n hoff o redeg a beicio, ac wedi cyflawni sawl triathlon, ac yn ystyried y cyfnodau yma o ymarfer corff i hanfodol iddo ddatblygu ei nofelau. Mae’n ddilynwr brwd o dîm pêl-droed Cymru, ac yn dad i ferch fendigedig a bachgen bywiog.

Silff Lyfrau