Anamika

Anamika

Anamika

Mae Anamika yn byw yn Delhi Newydd, yn barddoni mewn Hindi ac yn dysgu llenyddiaeth iaith Saesneg ym Mhrifysgol Delhi. Enillodd nifer o wobrau gyda'i dwy gyfrol ar bymtheg o farddoniaeth, straeon byrion ac ysgrifau. Cydweithiodd â beirdd o Gymru mewn gweithdai cyfieithu creadigol a drefnwyd gan y Gyfnewidfa Lên fel rhan o brosiect Cadwyn Awduron Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig. Cyhoeddir ei gwaith yn Gymraeg mewn atodiad a gyhoeddwyd gan y Gyfnewidfa yn Awst 2013 mewn partneriaeth â chylchgrawn Taliesin sef Cyfieithu Cymru, Darllen y Byd: India.

Cynnwys Cysylltiedig