Myrddin ap Dafydd

ap Dafydd, Myrddin

Prifardd, golygydd a chyhoeddwr Cymreig yw Myrddin ap Dafydd. Ef oedd y Bardd Plant cyntaf yn 2000, ac ef yw Archdderwydd Cymru ers 2019.

Magwyd Myrddin yn Llanrwst ac addysgwyd ef yn Ysgol Dyffryn Conwy a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, llyfrau i blant yn Gymraeg a Saesneg, a'r cylchgrawn Llafar Gwlad. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, ac enillodd gadeiriau yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.

Cyrhaeddodd ei gasgliad diweddaraf o farddoniaeth, Pentre Du, Pentre Gwyn (Gwasg Carreg Gwalch, 2019), restr fer Llyfr y Flwyddyn yn y categori barddoniaeth yn 2020.