Jorge Aulicino

Aulicino, Jorge

Mae Jorge Aulicino (g. Buenos Aires, 1949) yn newyddiadurwr diwylliannol sy’n gweithio gyda Clarín, y prif bapur newydd yn yr Ariannin, ers dros 30 mlynedd. Roedd yn aelod o’r cylchgrawn diwylliannol El juguete rabioso and Diario de Poesía. Hyd yn hyn mae wedi cyhoeddi nifer fawr o lyfrau barddoniaeth dylanwadol, y cyntaf yn 1971 a’r diweddaraf yn 2012. Fel cyfieithydd sy’n arbenigo mewn barddoniaeth Eidaleg mae hefyd wedi cyhoeddi cyfieithiadau o Eugenio Montale, Valerio Magrelli a Rodolfo Wilcock. Hefyd Robin Hood y otros poemas gan John Keats (Buenos Aires, Selecciones de Amadeo Mandarino) a Rimas gan Guido Cavalcanti (Buenos Aires, Selecciones de Amadeo Mandarino, 2006) ac El Infierno (Divina Comedia) (Buenos Aires, Gog y Magog, 2011).

Llyfrau gan yr un awdur