Trezza Azzopardi

Trezza Azzopardi

 Trezza Azzopardi

Ganwyd Trezza Azzopardi yng Nghaerdydd, ac mae hi nawr yn byw yn Norwich. Astudiodd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia ac ar hyn o bryd mae hi’n darlithio yno.

Mae ei nofel gyntaf, The Hiding Place (Gwasg Grove, 2000), yn adrodd hanes teulu Maltaidd sy’n byw yng Nghaerdydd yn ystod y 1960au. Enillodd Wobr Goffa Geoffrey Faber a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Ffuglen Booker a Gwobr Goffa James Tait Black (ar gyfer ffuglen). Addaswyd y llyfr ar gyfer ‘Book at Bedtime’ BBC Radio 4, ac mae wedi ei gyfieithu i 14 iaith. Mae ei hail nofel, Remember Me (2004), yn canolbwyntio ar Lilian (a gaiff hefyd ei hadnabod fel Winnie), sy’n fenyw ddi-gartref 72 mlwydd oed, sy’n chwilio am ei eiddo coll a’i hanes cythryblus.

Cyhoeddiadau:
The Song House (Picador, 2010)
Winterton Blue (Grove Press, 2007)
Remember Me (Picador, 2004)
The Hiding Place (Grove Press, 2000)

Gwobrau:
Gwobr Llyfr y Flwyddyn y Cyngor Celfyddydau 2005
Gwobr Goffa Geoffrey Faber 2001
Gwobr Booker ar gyfer ffuglen 2000
Gwobr Goffa James Tait Black (ar gyfer ffuglen) 2000