Yuvan Chandrashekar

Yuvan Chandrashekar

 Yuvan Chandrashekar

Mae Yuvan Chandrashekar yn fardd a chyfieithydd Tamil. Ganwyd ef yn 1961 ac mae’n byw yn Chennai. Mae wedi cyhoeddi sawl blodeugerdd o farddoniaeth, gan gynnwys Otrai Ulagam (‘Singular World’) 1996, Vaeroru Kalam (‘Another Era’) 1999, Pugaichuvarukku Appaal (‘Beyond the Smoke-wall’) 2002, Kai Maradhiyaay Vaitha Naal (‘A Day that was Misplaced’) 2005, Thotrap Pizhai (‘Optical Error’) 2009. Mae ei gerddi wedi eu cyfieithu i Malayalam, Kannada, Bengali, Oriya a Hindi. Mae Yuvan hefyd yn ysgrifennu straeon byrion ac mae ei nofelau yn cynnwys Kulla Chithan Charithram (‘Story of Kullachithan’) 2002, Pagadaiyattam (‘Dice Game’) 2004, Kaanal Nadhi (‘Illusory River’) 2006 a gyfieithwyd gan Padma Narayanan ac a gyhoeddwyd gan New Horizons Media yn 2010, a Veliyeetram (‘Stepping Out’) 2009.

Ei gyfieithiad diweddaraf i Tamil yw Out Stealing Horses gan Per Peterson a gyhoeddwyd gan Kalachuvadu yn 2013. Bu’n gyfieithydd preswyl yn y Gyfnewidfa Lên fis Ionawr 2014, gan weithio ar gyfieithiadau Tamil o farddoniaeth R. S. Thomas a Dylan Thomas.