Horatio Clare

Clare, Horatio

Mae Horatio Clare yn awdur arobryn ar un nofel fer a sawl darn o waith ffeithiol, gan gynnwys Running for the Hills (John Murray, 2006) ac A Simple Swallow (Chatto & Windus, 2009). Enillodd Running for the Hills wobr Somerset Maugham yn 2006 a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian yn 2006. Roedd Horatio ar restr fer Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times yn 2007.

Fe’i magwyd ar fferm ddefaid yng Nghymru, ac mae’n amryddawn fel newyddiadurwr, darlledwr, darlithydd, athro ac yn Gymrawd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Lerpwl. Mae ei ysgrifau ac adolygiadau yn aml i'w gweld yn The Financial Times, The Daily Telegraph a The Independent.

Yn 2019 roedd yn un o’r awduron a oedd yn rhan o daith Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i Calicut a Mumbai.

Website

Visit website

Llyfrau gan yr un awdur

Adnoddau