Gillian Clarke

Gillian Clarke

Ewch i'r Wefan
 Gillian Clarke

Ganwyd Gillian Clarke, sydd yn un o brif ffigyrau ym marddoniaeth gyfoes, yng Nghaerdydd ac mae bellach yn byw yng Ngheredigion. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd â gradd yn y Saesneg.

Mae hi’n fardd, dramodydd, golygydd, darlledwr, darlithydd a chyfieithydd a hi oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016. Hi yw Llywydd y ganolfan ysgrifennu Tŷ Newydd, ac roedd hi’n gyd-sylfaenydd y ganolfan honno ym 1990.

Golygodd yr Anglo-Welsh Review rhwng 1975 a 1984, ac mae hi wedi dysgu ysgrifennu creadigol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ar lefel prifysgol. Mae’n diwtor Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg ers 1994.

Astudir ei cherddi mewn ysgolion ledled Prydain, ac mae’n darllen ei barddoniaeth i bobl ifanc sy’n sefyll eu harholiadau TGAU Saesneg. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant.

Yn 1999 derbyniodd Gillian Clarke Wobr Glyndŵr am ei ‘Chyfraniad Eithriadol i’r Celfyddydau yng Nghymru’ yn ystod Gŵyl Machynlleth.

Yn 2010 derbyniodd hi fedal aur y frenhines am ei barddoniaeth, yn 2011 derbyniwyd hi i’r Orsedd, ac yn 2012 derbyniodd wobr Wilfred Owen Association Poetry. Roedd ei llyfr, Ice, ar restr fer gwobr T. S. Eliot yn 2012.

Yn ystod Hydref 2010 aeth Clarke ar daith farddonol o amgylch Cymru, gan ysgrifennu dyddiadur teithio ar gyfer gwefan y BBC.

Mae hi wedi teithio llawer yn darllen ei cherddi ac yn rhoi darlithoedd, ac mae ei gwaith wedi eu cyfieithu i ddeg iaith.

Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf o gerddi, Zoology, gan Carcanet fis Awst 2017, a detholwyd ef ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.

Cyhoeddwyd Roots Home, dilyniant i At the Source, gan Carcanet yn 2021.

Cyhoeddwyd ei fersiwn hi o'r Gododdin hefyd yn 2021, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau yn 2021.

Mae rhai o’i gweithiau eraill, a gyhoeddwyd gan Carcanet, yn cynnwys:

Selected Poems (1985)
Collected Poems (1997)
Making the Beds for the Dead (2004)
A recipe for water (2009)
Ice (2012)
Zoology (2017)