Cynan Jones

Cynan Jones

Ewch i'r Wefan
 Cynan Jones

Ganwyd Cynan Jones (1975) ger Aberaeron, ac mae’n awdur ar bum nofel.

Enillodd ei nofel gyntaf, The Long Dry (Parthian, 2006 ac ailgyhoeddwyd gan Granta, 2014) Wobr Betty Trask a dewiswyd ef fel Cymrawd Scritture Giovani Gŵyl y Gelli yn 2008. Mae The Long Dry wedi ei gyfieithu i’r Arabeg, Albaneg, Ffrangeg, Eidaleg, Twrceg, a chaiff ei gyfieithu i’r Iseldireg yn 2018.

Mae Everything I Found on the Beach (Parthian, 2011 ac ailgyhoeddwyd gan Granta, 2014) wedi ei gyfieithu i’r Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg.

Enillodd The Dig (Granta, 2014) Wobr Jerwood Fiction Uncovered 2014 a Llyfr y Flwyddyn 2015 yng nghategori ffuglen, ac ar restr hir a fer nifer o wobrau rhyngwladol eraill. Cyrhaeddodd pennod o’r llyfr restr fer Gwobr Stori Fer Banc Preift EFG Sunday Times ac ennill pleidlais y darllenwyr. Mae The Dig wedi ei gyfieithu i’r Armeneg, Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Macedonian, Portiwgaleg, Sbaeneg a Thwrceg.

Mae ei nofel Cove (Granta, 2016) wedi ei chyfieithu i’r Iseldireg a chyrhaeddodd rhestr hir ‘Europese Literatuurprijs’, Gwobr Llenyddiaeth Ewropeaidd, ynghyd â The Dig. Mae cyfieithiadau ar y gweill mewn Portiwgaleg a Thwrceg. Mae Cove hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017. Detholwyd Cove ar gyfer Silff Lyfrau'r Gyfnewidfa yn 2017.

Mae’r tair nofel gyntaf wedi eu cyhoeddi yn yr Unol Daleithiau gan Coffee House, a chyhoeddir Cove yng Ngwanwyn 2018 gan Catapult.

Mae straeon byrion Cynan wedi eu darlledu ar BBC Radio 4 ac wedi eu cyhoeddi mewn nifer o flodeugerddi a chyhoeddiadau gan gynnwys Granta a The New Yorker. Mae hefyd wedi sgriptio pennod o’r ddrama deledu drosedd Y Gwyll, sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymreig.

Enillodd Cynan gystadleuaeth Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC yn 2017, gyda’i stori fer 'The Edge of the Shoal,' sydd yn stori fer ‘delynegol a llawn tensiwn.’

Dewiswyd ei nofel ddiweddaraf, Stillicide (Granta, 2019), i'n Silff Lyfrau 2020–21. Gwyliwch Cynan yn trafod ac yn darllen darn o'r nofel yma.

Silff Lyfrau