Guto Dafydd

Guto Dafydd

 Guto Dafydd

Mae Guto Dafydd yn fardd ac yn nofelydd o Drefor, Gwynedd. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle cwblhaodd draethawd hir ar waith Wiliam Owen Roberts ac Iwan Llwyd.

Yn 2014, cyhoeddodd nofel dditectif i'r arddegau, Jac (Y Lolfa), ac yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd cyfrol o farddoniaeth Ni Bia'r Awyr (Cyhoeddiadau Barddas). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion yn 2015, sef Stad (Y Lolfa).

Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014 ac yn 2019.

Enillodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 am ei nofel Ymbelydredd, sy'n dilyn gŵr ifanc o Wynedd wrth iddo ddilyn cwrs radiotherapi ym Manceinion. Detholwyd y gyfrol hon i Silff Lyfrau 2016-17 y Gyfnewidfa ac enillodd y nofel wobr Barn y Bobl Golwg360 yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017.

Yn 2019 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol, a Gwobr Daniel Owen am ei nofel Carafanio (y Lolfa) – yr ail dro iddo ennill y ddwy wobr.