Cafodd Damian Walford Davies ei eni yn Aberystwyth yn 1971 ac ers 1997 mae wedi dysgu yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Aberystwyth. Cafodd casgliad o farddoniaeth ar y cyd, Whiteout, ei gyhoeddi gan Parthian yn 2006, ac fe gafodd ei gasgliad llawn cyntaf, Suit of Lights, ei gyhoeddi gan wasg Seren yn 2009.
Yn 2002/03 enillodd wobrau Ellis Griffith ac L.W. Davies am ei gyfrol ysgolheigaidd ar ryddiaith Waldo Williams.
Ar hyn o bryd, mae'n cwblhau casgliad o'r enw Alabaster Girls, sy'n cynnig ymateb cynnil i lanio roced ar y lleuad rhwng 1969-72.