Daniela Seel

Daniela Seel

 Daniela Seel

Mae Daniela Seel, a anwyd yn Frankfurt/Main yn 1974 ac sydd bellach yn byw ym Merlin, yn fardd, cyhoeddwr, cyfieithydd, golygydd, gwesteiwr a mentor. Yn 2000 roedd hi’n gyd-sefydlydd ar KOOKread, cangen llenyddol rhwydwaith artistiaid KOOK – ynghyd â chyd-awduron Jan Böttcher, Alexander Gumz, Karla Reimert, a Uljana Wolf.

Mae ei cherddi wedi ymddangos mewn cylchgronau, papurau newydd, blodeugerddi, ac ar y we a’r radio. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o gerddi, ich kann diese stelle nicht wiederfinden / i cannot find this place again gan kookbooks yn 2011. Mae ei cherddi wedi eu cyfieithu i’r Bwyleg, Saesneg, Slofaceg, Ffrangeg, Norwyeg, Eidaleg, Iseldireg, Serbeg a Chroataidd. Mae hi wedi cydweithio â cherddorion, dawnswyr, artistiaid gweledol a chyd-feirdd. Yn ei phrosiect cyfredol, was weißt du schon von prärie / what do you know about prairie, actually, ceisia archwilio ymhellach y berthynas rhwng llais, gofod, gwead, a symudiad, sut y maent yn esblygu o un i’r llall ac yn newid dros amser, gan efallai greu “ystafell farddoniaeth pedwar-dimensiwn”.

Tynnwyd y llun gan gydawdur, Anne Provoost, ger Tŷ Newydd, Ionawr 2013.