Deborah Kay Davies

Deborah Kay Davies

 Deborah Kay Davies

Ganwyd Deborah Kay Davies ym Mhontypŵl yn Ne Cymru ac mae wedi darlithio mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgolion Caerdydd a Morgannwg. Daeth i amlygrwydd yn sgil cyhoeddi Grace, Tamar and Laszlo The Beautiful, cyfres o straeon byrrion a enillodd iddi wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009.

Cafodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Things You Think I Don’t Know ei gyhoeddi yn 2006 gan Parthian.

Mae ei straeon wedi'u cyhoeddi'n eang a'u darlledu ar BBC Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, True Things About Me, gan Canongate yn 2010.

Fideos