Duncan Bush

Duncan Bush

 Duncan Bush

Ganed Duncan Bush yng Nghaerdydd ym 1946. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Warwick a Choleg Wadham, Rhydychen. Daeth i amlygrwydd yn gyntaf ym 1974 pan enillodd Gystdleuaeth Beirdd Ifanc Cyngor Celfyddydau Cymru.

Erbyn hyn, mae wedi cyhoeddi saith detholiad o farddoniaeth a thair nofel yn ogystal â storiau byrrion a gwaith ar gyfer y theatr a'r diwydiant teledu. Ym 1995 enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor y Celfyddydau am ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, Masks (1994).

Mae gan Bush ddawn arbennig wrth drafod sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar fywydau unigolion. Mae ei nofel gyntaf, The Genre of Silence (1988), yn cyfuno arddull gohebu, barddoni a hunan-gofiant i ddisgrifio erlyniad barth Rwsieg o'r 1930au Victor Bal. Streic y glowyr yn Ne Cymru ym 1984-5 yw thema ei ail nofel sy'n mynd i'r afael ag effaith yr anghydfod ar ddynion y cylch.

Mae Bush hefyd yn gyfieithydd sydd wedi cyhoeddi sawl cyfieithiad o bwys o farddoniaeth Ffrangeg ac Eidaleg. Mae'n byw yn Luxembourg a De Cymru.