Elin ap Hywel

Hywel, Elin ap

Mae Elin ap Hywel (1962) yn fardd, yn gyfieithydd ac yn olygydd sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae ei gwaith wedi ei gynnwys mewn amryw o flodeugerddi, a’i gyfieithu i’r iaith Tsiec, Saesneg, Almaeneg, Eidaleg a Siapaneaidd.

Mae ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys Pethau Brau (Y Lolfa, 1982), Ffiniau / Borders (Gomer, 2002), ac mae hi wedi golygu dau gasgliad o straeon byrion gan fenywod o Gymru yn Saesneg i Honno: Luminous and Forlorn (1994), a Power (1998).

Mae ei chyfrol ddiweddaraf, Dal i Fod (Barddas, 2020) yn cynnwys ei holl gerddi Cymraeg, ac fe'i dewiswyd i'n Silff Lyfrau 2020–21. Cyrhaeddodd hefyd restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae ganddi lais unigryw fel bardd a themâu amlwg ei gwaith yw hanes, chwedlau, lle'r ferch yn y byd sydd ohoni a phrofiadau personol. Mae ei harddull yn delynegol ond hefyd yn bryfoclyd ac eironig ar brydiau.