Eric Ngalle Charles

Eric Ngalle Charles

 Eric Ngalle Charles

Llenor, bardd a dramodydd yw Eric Ngalle Charles. Mae'n enedigol o bentref Wovilla yn Buea, Camerŵn, ac wedi byw yng Nghymru ers iddo deithio yno fel ffoadur ym mis Gorffennaf 1999. Ar hyn o bryd, mae'n fyfyriwr uwchraddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Charles ar Fwrdd Cyfarwyddwyr Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi'i enwi yn un o'r 'Hay 30' - 30 o bobl ifanc a fydd yn helpu i siapio'r byd yn y tri degawd nesaf.

Mae wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei waith ymchwil ar ymfudo, y cof a thrawma, ac mae wedi'i enwi gan Jackie Kay fel un o 10 awdur BAME gorau y Deyrnas Gyfunol.

Ers ysgrifennu ei ddrama gyntaf My Mouth Brought Me Here, mae ei waith wedi'i berfformio yng Ngwyl y Gelli, Gwyl Llandeilo a'r London Southbank Centre.

Bu ei ffilm fer Eric Ngalle: This is not a Poem yn teithio trwy'r Deyrnas Gyfunol yn 2019, a chyhoeddwyd ei hunangofiant I, Eric Ngalle: One Man's Journey Crossing Continents from Africa to Europe gan Parthian 2019.

[Llun: Llenyddiaeth Cymru]