Caradoc Evans

Caradoc Evans

 Caradoc Evans

Ganed Caradoc Evans (David Evans 1878-1945) yn Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin. Arwerthwr oedd ei dad, ac ar ôl i hwnnw farw yn ifanc, fe symudodd mam Caradoc Evans ynghyd â'i phump o blant i Rydlewis, Ceredigion. Yn 1897 aeth y mab i weithio yn brentis mewn siop ddillad yn nhref Gaerfyrddin. Wedi hynny bu yn gweithio mewn siop yn y Barri ac yn Llundain. Tra oedd yn Llundain fe gafodd waith fel newyddiadurwr. Erbyn 1915 yr oedd yn olygydd ar y cylchgrawn Ideas. Wedi cyhoeddi ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, My People (1915), daeth clod mawr ac amharch yng Nghymru i'w ran. Daeth dwy gyfrol ddeifiol arall o'i bluen, sef Capel Sion a My Neighbours. Ymhlith y nofelau a ysgrifennodd Caradoc Evans mae Nothing to Pay a Morgan Bible. Mae Nothing to Pay yn darlunio'r rhagrith, y trachwant a'r trallod y bu'r awdur yn dyst iddynt pan fu yn gwerthu dillad. Ei straeon cynnar sydd yn cynnal ei enwogrwydd yn anad dim. Y mae y rhai hynny yn pardduo ac yn tanseilio llawer o'r pethau Cymreig: anghydffurfiaeth, yr Eisteddfod, ac enw da'r werin bobl.