Peter Finch

Peter Finch

Ewch i'r Wefan
 Peter Finch

Bardd o Gaerdydd yw Peter Finch. Mae'n awdur toreithiog a'i lyfryddiaeth yn cynnwys cyfrolau o farddoniaeth, beirniadaeth ac ysgrifau ffuglen. Yn ystod y 70au, bu yn olygydd ar Second Aeon ac fe gyflwynodd lawer o feirdd Americanaidd ac Ewropeaidd i ddarllenwyr y cylchgrawn hwnnw. Bu'n gweithio fel llyfrwerthwr am flynyddoedd lawer, hyd 2011 ef oedd prifweithredwr Llenyddiaeth Cymru (yr Academi gynt). Cyhoeddwyd New and Selected Later Poems gan Seren yn 2007.