Catherine Fisher

Catherine Fisher

Ewch i'r Wefan
 Catherine Fisher

Ganwyd Catherine Fisher yng Nghasnewydd. Graddiodd yn y Saesneg o Brifysgol Cymru. Bu’n gweithio ym myd addysg ac archeoleg ac fel darlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bro Morgannwg. Mae hi’n Gymrawd o’r Academi Gymreig.

Mae Catherine yn fardd ac yn nofelydd adnabyddus, ac mae hi'n aml yn traddodi darlithoedd a darlleniadau i grwpiau o bob oed. Mae hi’n arwain sesiynau i athrawon a llyfrgellwyr ac yn ddarlledwr ac yn feirniad profiadol. Mae Catherine wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Roedd The Oracle ar restr fer Gwobr Llyfr Plant Whitbread.

Cyhoeddwyd ei nofel ddyfodolaidd Incarceron i gymeradwyaeth eang yn 2007, gan ennill Gwobr Ffuglen Plant Cymdeithas Mythopoeic America. Incarceron oedd Llyfr Plant y Flwyddyn The Times a Llyfr a Werthwyd Orau New York Times. Cyhoeddwyd y dilyniant, Sapphique, fis Medi 2008.