Jorge Fondebrider

Jorge Fondebrider

 Jorge Fondebrider

Mae Jorge Fondebrider (g. 1956) yn awdur a bardd Archentaidd a anwyd yn Buenos Aires. Yn ogystal â nifer o lyfrau barddoniaeth mae wedi cyhoeddi hanes o Buenos Aires fel y dywedir gan dramorwyr a ymwelodd â’r ddinas rhwng 1536 a 2000, a hanes Patagonia, a gaiff ei adrodd yn anarferol drwy gyferbynnu fersiynau gwahanol o’r un ffeithiau.

Mae’n cyfieithu o’r Ffrangeg a’r Saesneg i’r Sbaeneg. Yn ddiweddar enillodd wobr gyfieithu fawr oddi wrth Lywodraeth Ffrainc er mwyn cyfieithu Mme Bovary. Mae ei flodeugerddi yn cynnwys barddoniaeth Ffrangeg 1940-1997, straeon byrion Gwyddelig a barddoniaeth Wyddelig gyfoes – y flodeugerdd ddwyieithog gyntaf i gael ei chyhoeddi mewn gwlad y siaredir Sbaeneg ynddi.

Mae hefyd wedi cyfieithu gwaith Claire Keegan a chyhoeddi llyfr ar faledi Anglo-Albanaidd. Yn 2009 cydsefydlodd y Club de Traductores Literarios de Buenos Aires (Clwb Cyfieithwyr Llenyddol) gyda Julia Benseñor.

Yn ddiweddar, cyfieithodd farddoniaeth Richard Gwyn ar gyfer cyhoeddwyr Gog y Magog. Yn 2013 cyd-drefnodd rifyn De America o’r prosiect Writers’ Chain – Forgetting Chatwin – gan gysylltu awduron drwy gyfieithiadau yn yr Ariannin, Chile a Chymru.

Cynnwys Cysylltiedig