Inés Garland

Inés Garland

 Inés Garland

Mae Inés Garland, a anwyd yn Buenos Aires yn 1960, yn nofelydd ac yn awdur straeon byrion sy’n byw yn Buenos Aires. Enillodd ei nofel, Piedra, papel o tijera (Carreg, papur neu siswrn), nifer o wobrau. Ar hyn o bryd mae Garland yn dysgu ysgrifennu creadigol yn yr Ariannin a Chile, yn rhoi darlleniadau ac yn gweithio ar raglenni llythrennedd i bobl ifanc. Mae hi hefyd yn cyfieithu llenyddiaeth o Saesneg i’r Sbaeneg ac yn ddiweddar, bu’n gweithio ar gyfieithiadau o farddoniaeth Tiffany Atkinson a Mererid Hopwood.

Cynnwys Cysylltiedig