Eluned Gramich

Eluned Gramich

Ewch i'r Wefan
 Eluned Gramich

Mae Eluned Gramich yn awdur a chyfieithydd Almaeneg-Gymraeg. Bu’n byw yn Japan a’r Almaen am sawl blwyddyn cyn dychwelyd i Gymru i ddilyn PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enillodd ei chofiant am Hokkaido, Woman Who Brings the Rain (2015), wobr New Welsh Writing, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru a’i dewis i’w hyrwyddo’n rhyngwladol gan y Gyfnewidfa yn 2016.

Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn amryw o gylchgronau a blodeugerddi, gan gynnwys Rarebit: New Welsh Fiction (Parthian, 2014), New Welsh Short Stories (Seren, 2015), a blodeugerdd awduron ifanc o Gymru ac Ewrop Zero Hours on the Boulevard: Tales of Independence and Belonging (Parthian, 2019). Cyhoeddwyd ei gwaith ffeithiol Saesneg yn Wales Arts Review, New Welsh Review, a World Literature Online, a'i gwaith Gymraeg yn O'r Pedwar Gwynt. Cyhoeddwyd ei chyfieithiad o gasgliad stori fer gan yr awdur o'r Swistir Monique Schwitter fel Goldfish Memory (Parthian, 2015).

Fe’i dewiswyd yn un o bedwar awdur a chyfieithydd o Gymru i gymryd rhan yn rhaglen breswyl Ulysses’ Shelter.

Mae hi'n byw yn Aberystwyth ac yn Gadeirydd is-bwyllgor Cyfieithu a Hawliau Ieithyddol PEN Cymru.

Gwyliwch Eluned yn darllen o'i nofel gyntaf, Woman Who Brings the Rain, yma.