Stephen Gregory

Stephen Gregory

 Stephen Gregory

Er bod Stephen Gregory wedi cael ei ddisgrifio’n awdur arswyd, mae ei nofelau a’i straeon byrion yn adlewyrchu ei gariad at gefn gwlad, ac yn enwedig ei ddiddordeb mewn adar.

Dilynwyd The Cormorant, a enillodd Wobr Somerset Maugham a’i drosi’n ffilm deledu gan y BBC, gan The Woodwitch a The Blood of Angels, y’u hysgrifennwyd i gyd ym mynyddoedd Eryri ac o’u cwmpas.

Wedi blwyddyn fel awdur sgrin yn Hollywood, gyda’r cyfarwyddwr ffilm enwog William Friedkin, treuliodd Stephen bymtheg mlynedd yn dysgu Saesneg yn Borneo. Yn ystod y nosweithiau trofannol poeth ysgrifennodd bedair nofel arall, gan eu gosod nôl adref yng Nghymru ac yn Lloegr... gan ddefnyddio aderyn yma ac acw fel canolbwynt i bob stori.

Mae bellach yn byw yn Ffrainc gyda’i wraig Chris, lle maent yn araf yn ailadeiladu ffermdy caerog o’r 18fed ganrif.