Harry Salmenniemi

Harry Salmenniemi

 Harry Salmenniemi

Cafodd Harry Salmenniemi ei eni yn 1983 yn Jyväskylä ac astudiodd Athroniaeth a Gwleidyddiaeth yn Helsinki, Rhufain a Melbourne. Gweithiodd fel prif olygydd ar gyfer Tuli&Savu, y cylchgrawn barddoniaeth mwyaf blaenllaw yn Y Ffindir. Mae'n gyd-sylfaenydd y tŷ cyhoeddi Osuukunta Poesia, sy'n canolbwyntio ar gyhoeddi barddoniaeth a rhyddiaeth avant-garde ac sy'n cael ei redeg yn gydweithredol gan feirdd ifanc.

Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau o farddoniaeth avant-garde: Runojä (Barddoniaeth; 2011), Texas, sakset (Texas, siswrn; 2010), Virrata että (Rheda hwnna; 2008). Mae hefyd wedi golygu blodeugerdd o farddoniaeth arbrofol y Ffindir, Vastakaanon 2000-2010 (Gwrth-ganon 2000-2010) a gyhoeddwyd yn 2011. Cyfansoddwyd nifer o'i gerddi i gerddoriaeth glasurol. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cynhyrchiadau theatrig ac wedi gweithio ar brosiectau ffilmiau byr a nifer o arddangosfeydd celf.

Derbyniodd Salmenniemi eisoes nifer o ysgoloriaethau a gwobrau, gan gynnwys gwobr Kalevi Jäntti Prize (2010). Cyhoeddwyd ei gyfrol ddiweddaraf o farddoniaeth, Runojä (Cerddi) yn 2011 ac mae'r cerddi wedi eu dylanwadu gan farddoniaeth iaith America, celf gyfoes a dyfeisiadau ysgrifennu Oulipo. Enwebwyd Runojä ar gyfer gwobr Tanssiva Karhu, a ddyfernir i gyfrol farddoniaeth orau'r flwyddyn. Yn Mawrth 2012, enillodd Runojä y wobr am lyfr hardda'r flwyddyn gan Bwyllgor Celf Llyfrau'r Ffindir (Suomen kirjataiteen komitea).

Mae'r ysgoloriaeth HALMA/Tŷ Cyfieithu Cymru ar gyfer Harry Salmenniemi yn cael ei chefnogi gan Dŷ Llenyddiaeth Jyväskylä.